Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Y Criwr (Cyfanswm: 17)

1 Pell ac agos yma dewch,
2 Hanes Pobun heddiw cewch;
3 Dowch ynghyd, dowch ynghyd,
4 Bawb i gyd, mae'n bryd,
5 mae'n bryd.
 
7 Gostegwch bawb yr ennyd hon
8 I wrando'r hyn a roir ger bron!
9 Rhyw fath ar chwarae moesol yw,
10 Sef "Galwad Pobun ger bron Duw,"
11 Cewch weled drwyddo ar ei hyd
12 Y modd y byddwn yn y byd,
13 A'n hoedl a'n llafur am y sala;
14 Bydd glir y chwedl a theg ei gwala;
15 Ar ddull y chwarae, gwerth a fydd,
16 A thano hefyd llawer sydd
17 A'ch dwg i weled a chymhwyso
18 I chwi'r ddysgeidiaeth a gynhwyso.